Y Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol |
Lleoliad: |
Ystafell Bwyllgora 1 - Y Senedd |
|
|
||
|
|
||||
Dyddiad: |
Dydd Iau, 16 Hydref 2014 |
|
|||
|
|
||||
Amser: |
10.18 - 12.48 |
|
|||
|
|
||||
Gellir gwylio’r cyfarfod ar Senedd TV
yn: |
|||||
|
|||||
|
|||||
Cofnodion Cryno: |
|||||
|
|
|
|||
Aelodau’r Cynulliad: |
|
David Rees AC (Cadeirydd) Alun Davies AC Janet Finch-Saunders AC John Griffiths AC Elin Jones AC Darren Millar AC Lynne Neagle AC Gwyn R Price AC Lindsay Whittle AC Kirsty Williams AC |
|||
|
|
||||
|
|
|
|||
Tystion: |
|
Mark Drakeford AC, Y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol Vaughan Gething AC, Y Dirprwy Weinidog Iechyd Dr Andrew Goodall, Llywodraeth Cymru Albert Heaney, Llywodraeth Cymru Martin Sollis, Llywodraeth Cymru |
|||
|
|
||||
|
|
|
|||
Staff y Pwyllgor: |
|
Llinos Madeley (Clerc) Sian Giddins (Dirprwy Glerc) Amy Clifton (Ymchwilydd) Martin Jennings (Ymchwilydd) |
|||
|
|
||||
Trawsgrifiad
1 Blaenraglen waith y Pwyllgor
1.1 Bu’r Aelodau’n trafod y flaenraglen waith, gan gytuno y byddent yn ei thrafod ymhellach mewn cyfarfod yn y dyfodol.
2 Cyflwyniadau, ymddiheuriadau a dirprwyon
2.1 Ni chafwyd unrhyw ymddiheuriadau.
3 Papurau i’w nodi
3.1 Nododd y Pwyllgor y canlynol:
3.2 Nododd y Pwyllgor y llythyr gan y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol ynghylch cynllun recriwtio Ymddiriedolaeth Gwasanaethau Ambiwlans Cymru. Cytunodd y Pwyllgor i ysgrifennu at y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol i ofyn am eglurhad ynghylch faint o bobl sydd wedi gadael y gwasanaeth ambiwlans yn ystod y cyfnod a gwmpesir gan y cynllun recriwtio a’r gwahaniaeth net yn niferoedd y staff.
4 Cyllideb Ddrafft Llywodraeth Cymru ar gyfer 2015-16: Sesiwn i graffu ar waith y Gweinidog
4.1 Bu’r Pwyllgor yn craffu ar waith y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol a’r Dirprwy Weinidog Iechyd ar gyllideb ddrafft Llywodraeth Cymru ar gyfer 2015-16.
4.2 Cytunodd y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol i ddarparu’r canlynol i’r Pwyllgor:
5 Cynnig o dan Reol Sefydlog 17.42 (vi) i benderfynu gwahardd y cyhoedd o weddill y cyfarfod
5.1 Derbyniwyd y cynnig.
6 Cyllideb Ddrafft Llywodraeth Cymru ar gyfer 2015-16: Trafod y dystiolaeth a ddaeth i law
6.1 Bu’r Pwyllgor yn trafod y dystiolaeth a gafwyd gan y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol a’r Dirprwy Weinidog Iechyd a chytunodd i ysgrifennu atynt i ofyn am eglurhad ynghylch nifer o faterion a gododd yn ystod y sesiwn.
6.2 Cytunodd y Pwyllgor y byddai’r llythyr hwn yn cael ei rannu gyda’r Pwyllgor Cyllid er mwyn llywio ei waith yn craffu ar y gyllideb ddrafft.